Hafan
Cafodd Cymdeithas Cofrestru a Rheoli Tiroedd Comin a Meysydd Pentref Cyf (CGRMA) ei wneud yn gorfforaeth ym mis Chwefror 2006. Cafodd yr enw ei newid i Gymdeithas Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin Cyf (ACRA)ym mis Gorffennaf 2008.Cafodd y CGRMA (neu ACRA fel mae'n cael ei alw bellach - sef Cymdeithas Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin Cymru a Lloegr) ei chreu gyda chymorth ariannol gan Adran yr Amgylchedd, Amaeth a Materion Gwledig a bydd y cymorth yn para am dair blynedd.
Gwaith ACRA yw cefnogi Swyddogion a staff Cofrestru Tiroedd Comin y mae eu gwaith yn cynnwys pob agwedd ar diroedd comin a meysydd trefi a phentrefi. Nod ACRA yw hyrwyddo arferion da a sicrhau cyfathrebu effeithiol er mwyn i'r aelodau dderbyn gwybodaeth gyson am faterion gwleidyddol a thechnegol sy'n effeithio ar gofrestru tiroedd comin a meysydd trefi a phentrefi, yn benodol trwy weithredu Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006.


