Hanes
Mae bodolaeth tir comin yn dyddio'n ôl i'r Oesoedd Tywyll - roedd cael defnyddio tir comin yn hanfodol i bobl fedru byw. Roedd hanfodion bywyd - bwyd, dŵr a thanwydd - i'w canfod ar y tir diffaith lleol. Roedd y Ddeddf Seneddol gyntaf un (sef Statud Merton) yn ymwneud â thiroedd comin, a chafodd hon ei phasio ym 1235. Mae'r term yn deillio o'r ffaith nad oedd y fath beth â pherchnogion tir ar un adeg yn hanes Cymru a Lloegr - roedd y tir yn eiddo neu'n ‘gyffredin' i bawb.
Mae system tiroedd comin heddiw'n seiliedig ar y system meysydd agored y mae sôn amdani mor gynnar â 688-726OC. Roedd y rhan fwyaf o dir y system honno'n dir âr, ond roedd rhannau'n cael eu cadw ar gyfer pori anifeiliaid a rhannau i dyfu glaswellt i gynhyrchu gwair ar gyfer yr anifeiliaid.
Yn yr unfed ganrif ar ddeg, daeth y Normaniaid a goresgyn y wlad. Gynt roedd y tir yn aml yn cael ei weithio ar y cyd gan y rheini a fyddai wedi clirio'r tir o gwmpas eu pentref, ond bellach aeth y tir fwyfwy i ddwylo'r arglwyddi. Ym 1235, cafodd Statud Merton ei basio ac roedd hwn yn diogelu hawliau'r tenantiaid a'r pentrefwyr i ddefnyddio'r tiroedd comin o dan gyfraith gwlad, hawl a oedd yn cael ei chydnabod gan y llysoedd.
Fel arfer ar dir y faenor byddai fferm a phlasty. Roedd yr arglwydd yn cymryd yr holl gynnyrch a oedd yn cael ei dyfu ar y tir gorau. O gwmpas y fferm roedd caeau o dir ffrwythlon yr oedd y tenantiaid rhydd yn ei ffermio. Dyma le dechreuodd y syniad o gylchdroi cnydau, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar rai o'r caeau ac un yn cael ei adael yn dir braenar. Roedd y caeau'n cael eu rhannu'n lleiniau petryal llai, a rheini'n cael eu rhannu'n stribedi, gyda phob gwerinwr yn cael defnyddio un ohonynt. Roedd stribed pob un gwerinwr wedi'u gwasgaru'n deg dros holl dir y faenor - gyda rhai ar dir da a rhai ar dir gwael. Roedd y gwerinwyr yn penderfynu ar y cyd pa gnydau i'w hau a phryd i'w medi. Nid oeddent yn cael ffensio'r tir na rhoi gwartheg arno nes bod pob gwerinwr wedi medi'i gynhaeaf. Roedd gwêdd o geffylau ac aradr yn mynd o un stribed bob yn ail i weithio'r tir ar gyfer y gwahanol werinwyr. Hynny, gan fod y stribedi'n hir ac yn gul ac felly'n anodd troi wrth gyrraedd pen y dalar. Yn ogystal â chael defnyddio'r stribedi o dir, roedd gan bob gwerinwr yr hawl i roi ei wartheg i bori, i gasglu coed, ac i dorri tyweirch, ac weithiau i ddal pysgod. Ar ôl i gnwd yr haf gael ei fedi, roedd y caeau'n cael eu hagor i'r gwerinwyr i gyd eu defnyddio i bori eu hanifeiliaid.
Byddai gweirgloddiau parhaol yn cynhyrchu gwair - byddai hwn yn cael ei ddefnyddio i bori anifeiliaid ar ôl Calan Awst (1 Awst) gan y byddai'r gwair wedi'i fedi erbyn hynny.
O dua'r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen roedd pwysau ar y system hon o ddau gyfeiriad. Yn gyntaf, roedd awydd i newid hawl y gwerinwr i'r lleiniau o dir gwasgaredig gan roi hawl iddynt gael darnau o dir mwy cyfleus, yn ddelfrydol o gwmpas ei fwthyn. Roedd gwrthwynebiad i hyn, gan fwyaf gan y gwerinwyr eu hunain gan y byddai'n golygu na fyddent yn cael eu diogeli trwy rannu'r tir drwg a'r tir da yn deg. Yr ail broblem oedd bod arglwydd y faenor yn ceisio amgáu'r tir comin a'i ymgorffori yn ei dir ei hunan.
Roedd amgáu'r tir comin yn achosi caledi yn enwedig ymhlith y gwerinwyr tlotaf nad oedd ganddyn nhw ran yn y system caeau agored gan eu bod yn dibynnu ar dir pori a choetir am eu bywoliaeth. Dechreuodd cyfundren seiliedig ar arian ddisodli'r berthynas ffiwdal (taliadau i'r arglwydd ar ffurf llafur). Roedd hyn yn golygu bod y tenant yn talu'r landlord am y tir, a bod y landlord yn talu'r labrwr am ei waith. Gan mwyaf daeth y rhai a oedd piau lleiniau o dir yn denantiaid, daeth y taeogion yn labrwyr, Gyda'r twf mewn masnach genedlaethol a rhyngwladol nid oedd ffermio ffiwdal y faenor yn gallu diwallu'r galw.
Yn y dechrau roedd nifer yr anifeiliaid a oedd yn pori ar y tir comin yn cael ei gyfyngu gan allu fferm y gwerinwr i roi lloches iddynt yn ystod misoedd y gaeaf - sef egwyddor levant et couchant - (yn llythrennol, nifer yr anifeiliaid sy'n codi ac yn cysgu ar y fferm). Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y stint ei gyflwyno - roedd prinder tir pori wedi arwain at system gwotâu, weithiau'n gysylltiedig â maint daliad y fferm. Yn nes ymlaen, cafodd yr elfennau hyn eu cysylltu'n fwy manwl.
Ar yr union adeg hon, achosodd y Pla Du brinder labrwyr (1348-1349). Gostyngodd y boblogaeth i'w hanner gan leihau'r pwysau ar y tir. Bu'n rhaid gadael tir ac adeiladau. Aeth y rhai a oroesodd y drychineb ati i gyfuno lleiniau tir y rhai a fu farw â'u tir eu hunain, a thrwy hynny daethant yn dirfeddianwyr sylweddol, yn aml yn cyflogi unrhyw un a oedd yn gallu eu helpu. Oherwydd y prinder, roedd y labrwyr yn gallu mynnu cyflogau uwch. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynyddu'r gost i'r arglwyddi a oedd yn aml yn dewis gosod y tir ar rent yn hytrach na'i ffermio'u hunain. Gwnaeth hyn i gyd arwain at Wrthryfel y Werin ym mis Mehefin 1381, pan fartsiodd byddin o werinwyr o Gaint ac Essex i Lundain gan oresgyn Tŵr Llundain. Cafodd Archesgob Caergaint a Thrysorydd y Brenin eu lladd. Cytunodd y Brenin, Rhisiart yr Ail, a oedd dim ond yn 14 oed ar y pryd, i gyfarfod â'r gwerinwyr yn Mile End. Yn fras, cwynion y gwerinwyr oedd:-
1) Eu bod yn ofni y byddai'r Arglwyddi yn diddymu'r breintiau yr oedden nhw wedi'u hennill yn sgil y Pla Du
2) Roedden nhw'n cael eu gorfodi i weithio'n ddi-dâl am ddau ddiwrnod yr wythnos i'r eglwys. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw wneud digon o waith ar eu tir eu hunain er mwyn cynnal eu hunain a'u teuluoedd
3) Cyflwyno Treth y Pen o 5 ceiniog y flwyddyn.
Cytunodd y Brenin i'r hyn yr oedd y gwerinwyr yn gofyn amdano, ond ni wnaeth gadw ei air. Cafodd arweinydd y Gwrthryfel, John Ball, ei grogi a chafodd y gwerinwyr eu hunain unwaith eto dan fawd arglwydd y faenor. Fodd bynnag, am y can mlynedd nesaf roedden nhw'n gallu mynnu cyflogau uwch oherwydd y prinder labrwyr.
Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg , roedd y galw am ddefaid a gwartheg, a'u cynnyrch megis gwlân a lledr, wedi rhoi pwysau ar dir comin unwaith eto. Arweiniodd yr arfer o gadw gormod o anifeiliaid at ail-gyflwyno'r cyfyngiadau. Roedd y tir dan bwysau cynyddol hefyd oherwydd y galw am dai a bwyd. Roedd tiroedd comin yn cael eu hamgáu'n amlach. Roedd angen rhwystro heintiau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid a oedd yn pori ar dir comin. Roedd statws cyfreithiol i hawliau tir comin, felly roedd yn rhaid cael y gwerinwyr i gytuno cyn amgáu'r tir, neu ddefnyddio'r gyfraith trwy gyflwyno Mesur Preifat yn San Steffan. Byddai arolwg o'r tir yn cael ei gynnal, gan nodi ffyrdd a ffiniau'r caeau, a byddai darn o dir yn cael ei ddyfarnu i bob ochr (gan gynnwys y cominwyr).
Roedd y sefyllfa yng Nghymru ac ardal y Pennines yn wahanol. Roedd tir pori garw yn llawer pwysicach yma. Hyd at ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd ystâd tad yn cael ei rhannu'n gyfartal ymhlith ei feibion. Byddai teulu cyfan, gan gynnwys yr anifeiliaid, yn symud o dir isel yn ystod y gaeaf i'r tir uchel. O'r hendre i'r hafod. Parhaodd yr arfer hwn ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
MEYSYDD TREFI A PHENTREFI
Nid yw diffiniad maes tref neu bentref wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Yn hanesyddol, darnau bach o dir oedden nhw a oedd yn cael eu defnyddio gan y bobl a oedd yn byw mewn pentref ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Efallai'n wreiddiol, mai tir diffaith y faenor oedd hwn a bod yr Arglwydd yn gadael i'r pentrefwyr ei ddefnyddio, cyn bod y defnydd hwn yn dod yn hawl wrth ddefod a allai gael ei gorfodi trwy'r llysoedd. Mae'n bosibl fod y tir hefyd yn rhywle i hel yr anifeiliaid at ei gilydd ar adeg o argyfwng (popeth o dywydd drwg i ymosodiad rhyfelgar).
Yn draddodiadol, mae'r maes yn cael ei weld fel lle ar gyfer gweithgareddau cymunedol - gemau a ffeiriau, syrcas, saethyddiaeth ac wrth gwrs dawnsio o gwmpas y fedwen Haf. Yn y dyddiau gynt, y pwll dŵr ar y maes fyddai cyflenwad dŵr y pentref. Roedd gefail mewn llawer o'r pentrefi a fyddai ar y maes neu gerllaw, a hefyd bopty a thafarn wrth gwrs. Yn aml iawn byddai'r holl bentref wedi'i adeiladu o'i gwmpas.


