Polisi Preifatrwydd ac Ymwrthodiad
Mae dolenni ar ein gwefan ni i amrywiaeth eang o safleoedd eraill, ac rydyn ni hefyd yn dangos hysbysebion pobl eraill. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na pholisïau preifatrwydd y gwefannau eraill na'r hysbysebwyr hyn, nac am y ffordd y mae gwybodaeth am y bobl sy'n eu defnyddio'n cael ei thrin. Dylech nodi nad ydym yn gweithredu fel asiantwyr i'r gwefannau a'r hysbysebwyr hyn, ac nid oes gennym unrhyw awdurdod i'w cynrychioli, oni bai bod hynny'n cael ei ddatgan yn benodol,
Eich Preifatrwydd
Cymdeithas Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin yng Nghymru a Lloegr yw ACRA. I gysylltu â chynrychiolwyr ACRA, e-bostiwch admin@acra.org.uk. Cewch anfon eich manylion personol at ACRA trwy'r wefan.
Mae ACRA wedi ymrwymo i barchu'ch preifatrwydd. Trwy ddewis rhoi manylion personol i ni, rydyn ni'n cydnabod eich bod yn ymddiried ynom i ymddwyn mewn modd cyfrifol. O'r herwydd mae gennym bolisi ar gyfer diogelu eich manylion personol. Darllenwch ymlaen i wybod mwy am ein polisïau preifatrwydd.
Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym? Sut rydyn ni'n ei defnyddio?
Ar adegau, mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn i chi roi manylion personol i ni o'ch gwirfodd. Fel arfer, byddwn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon pan fyddwch yn cofrestru i gael gwasanaeth ar-lein, pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth wrth wneud busnes ar-lein neu pan fyddwch yn cysylltu â ni am y wefan neu'n gwasanaethau.
· Pan fyddwch yn ceisio mewn cystadleuaeth neu ymgyrch hyrwyddo arall, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn i ni weinyddu'r gystadleuaeth a rhoi gwybod i'r enillwyr.
· Os byddwch yn anfon gwybodaeth bersonol dros y we, er enghraifft i ACRA allu gohebu â chi neu ddarparu gwasanaeth i chi, byddwn ni'n dweud wrthych sut y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth honno. Os byddwch yn dweud wrthym nad ydych am i'r wybodaeth gael ei defnyddio i gysylltu â chi eto, byddwn ni'n parchu ein dymuniad.
· Byddwn ni'n defnyddio'ch manylion personol, ynghyd â gwybodaeth o ffynonellau eraill, i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, ac i'n helpu gyda'r gwaith gweinyddol ac i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid. Hefyd, byddwn ni'n dadansoddi sut rydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth, y gwasanaethau a'r hysbysebion yr ydym yn eu cynnig yn addas i'ch anghenion a'ch diddordebau. Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth amdanoch am gyfnod rhesymol at y dibenion hyn. Gallai fod angen i ni rannu eich manylion gyda'n darparwyr gwasanaeth ac asiantau at y dibenion hyn. Mae'n bosibl y byddwn ni'n datgelu data personol er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoliadol.
· Ein nod yw parhau i wella cynnwys gwefan ACRA a'r ffordd mae'n gweithio. O'r herwydd, rydyn ni'n monitro patrymau defnyddio'r wefan i'n helpu i wella ei diwyg ac i sicrhau bod ei chynnwys o ddiddordeb i chi.
Eich Caniatâd
Trwy roi'ch manylion personol i ni, rydych chi'n rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data personol. Rydych chi hefyd yn rhoi'ch caniatâd i ni drosglwyddo gwybodaeth amdanoch i wledydd neu awdurdodaethau lle nad ydynt yn cadw at yr un safonau â'r Deyrnas Unedig wrth ddiogelu data, at y dibenion uchod pe bai angen. Os byddwn ni'n trosglwyddo'r wybodaeth, byddwn ni neu nhw yn llunio contract i sicrhau bod eich manylion yn cael ei diogelu. Os byddwch chi'n rhoi gwybodaeth am rywun arall i ni, bydd yn rhaid cadarnhau bod y person hwnnw wedi eich penodi chi i weithredu ar ei ran, a'i fod wedi rhoi caniatâd inni brosesu ei ddata personol, gan gynnwys data personol sensitif. Hefyd bydd yn rhaid cadarnhau'ch bod chi wedi esbonio wrtho pwy ydyn ni ac at ba ddibenion (fel sy'n cael eu nodi uchod) y bydd ei ddata personol yn cael ei brosesu.
Sut byddwn ni'n diogelu'ch manylion?
Rydyn ni'n cymryd y camau priodol i sicrhau bod yr wybodaeth sy'n cael ei rhoi i ni yn gywir, yn gyfredol ac yn cael ei chadw'n ddiogel, a'i bod ond yn cael ei chadw gyhyd ag sydd ei hangen at y dibenion priodol.
Gwybodaeth Arall
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o'r manylion yr ydyn ni'n eu cadw amdanoch (hwyrach y bydd yn rhaid talu ychydig bach am wneud hyn) ac i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw fanylion anghywir yn yr wybodaeth honno. Er mwyn rheoli ansawdd ac at ddibenion hyfforddi, gallem fonitro neu recordio'ch cysylltiadau â ni.
Pryd a sut i gysylltu â ni
Os bydd eich manylion personol yn newid, os ydych chi'n newid eich meddwl ynghylch eich dewisiadau marchnata neu os oes gennych chi unrhyw ymholiad ynghylch sut rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth amdanoch, rhowch wybod i ni trwy ebostio admin@acraew.org.uk Gallai'r polisi preifatrwydd hwn newid, ac felly dylech chi edrych arno'n rheolaidd. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau pan fydd gofyn i ni wneud hynny.
Ein nod yw parchu'ch preifatrwydd. Er mwyn ein helpu i wella ein harferion preifatrwydd, anfonwch eich sylwadau atom. Rydyn ni'n croesawu'r cyfle i glywed eich barn ac i ateb eich cwestiynau.
Olrhain Gweithgarwch
Mae ein Serfwyr yn cofnodi sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio er mwyn i ni gasglu ystadegau am y defnydd ohoni. Nid ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i adnabod unigolion, ac nid ydym yn ei defnyddio at unrhyw ddiben ac eithrio casglu ystadegau.


